Harddu Pontardawe ac amlygu treftadaeth y ward

Mae Cyngor Tref Pontardawe wedi llwyddo i ennill grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol oddi wrth Cyngor Sir Castell-nedd Port Talbot er mwyn cwblhau prosiect treftadaeth. Dan arweiniad y cynghorwyr Dai Brain, Gwenno Ffrancon a Matty Vincent, bydd gwaith yn mynd rhagddo yr haf hwn i harddu tref Pontardawe a phentrefi Rhyd-y-Fro, Trebannws ac Ynysmeudwy trwy baentio meinciau a chelfi stryd ar rai o brif strydoedd yr ardal.

 

Bydd y rhai mwyaf sylwgar yn eich plith wedi sylwi ar y bocsys metal sydd ar hyd ein strydoedd – yn aml yn wyrdd a llwyd – bocsys cwmni Openreach yn darparu bandllydan i gartrefi yw’r mwyafrif ac ambell un yn focsys trydanol llwyd ar gyfer goleuadau traffig. Nod y prosiect yw paentio rhai o’r bocsys hyn â darluniau sy’n cyfleu hanes a threftadaeth yr ardal gan amlygu rhai o’r atyniadau amlycaf sydd yn yr ardal ac ambell elfen llai amlwg hefyd o bosib! Faint ohonoch fyddai’n dadlau dros gael Carn Llechart ac Eglwys San Pedr ar un o’r bocsys, neu efallai ddarluniau o afon Clydach a rhaedrau Cwm Du ar fainc? Beth wedyn am amlygu rhai o glybiau chwaraeon lleol gyda’u arfbeisiau trawiadol, neu efallai wynebau rhai o fawrion y ward?

Mae’r prosiect yn galluogi cydweithio ar draws y cenedlaethau i rannu barn a gwybodaeth a fydd yn ein helpu i amlygu tirnodau, unigolion, ac elfennau eraill o'n treftadaeth sy'n adlewyrchu ac yn gwneud diwylliant ac etifeddiaeth Pontardawe yn weladwy i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd. Y gobaith yw darparu rhywbeth gweledol trawiadol fydd yn ysgogi trafodaeth a gwella golwg y dref.

Trwy gydweithio â’r ysgolion cynradd sydd yn ward Pontardawe bydd y Cyngor Tref yn casglu barn a syniadau ein to iau ar gyfer yr hyn ddylid ei gynnwys yn y darluniau. Bydd cyfle hefyd i oedolion rannu barn trwy wahanol lwyfannau – trwy’r cyfryngau cymdeithasol, trwy sesiynau galw heibio yn Llyfrgell y dref a Thy’r Gwrhyd a thrwy gysylltu gyda’r Cyngor Tref yn uniongyrchol.

Bydd brîff yna yn cael ei baratoi cyn diwedd yr haf ar gyfer yr artistiaid o gwmni FreshCreative Ltd, sydd â chryn brofiad o gyflawni’r math hwn o waith celf ar hyd a lled sir Abertawe. Y nod fydd creu darluniau trawiadol fydd yn adlewyrchu yr hyn y mae trigolion y dref yn falch ohono gan fanteisio hefyd ar ffordd wych o gyflwyno’n treftadaeth leol i ymwelwyr.

Os hoffech chi gyfrannu eich syniadau am beth ddylid ei gynnwys yn y darluniau, croeso i chi eu rhannu trwy gysylltu â cllr.g.ffrancon@gmail.com Yn y cyfamser, dyma rai lluniau o waith Fresh Creative sydd eisoes i’w gweld a’u mwynhau yn sir Abertawe.


 Lluniau: Fresh Creative Ltd