What3words ar gyfer lleoliad y bocs: impresses.cheater.dressings
Mae'r ddelwedd ar y bocs hwn yn talu teyrnged i dreftadaeth werin y dref a'r Wyl Werin, a sefydlwyd ym 1978, a oedd mor annwyl ymhlith trigolion ac ymwelwyr rhyngwladol fel ei gilydd. Byddai'r Wyl , a gynhaliwyd yn y dref ac ar Barc Ynysderw, yn denu miloedd i Bontardawe a Chwm Tawe i rannu eu cariad at gerddoriaeth, dawns a'r celfyddydau traddodiadol. Heddiw, cynhelir yr Wyl o hyd, bob mis Awst, ac mae'n benwythnos o gerddoriaeth fyw wedi'i threfnu ar draws tafarndai a chlybiau'r dref. Yn y ddelwedd hefyd, mae teitl cân fwyaf eiconig y ferch leol, Mary Hopkin, 'Those were the days', a gynhyrchwyd gan Paul McCartney ym 1968. Mae yna faneri Llydaweg hefyd i gyfeirio at efeillio'r dref gyda Locminé yn Llydaw.