What3words ar gyfer lleoliad y bocs: ombudsman.enthused.economics
Mae'r gwaith celf ar y bocs hwn yn dangos tirnod mwyaf adnabyddus y dref, sef Eglwys San Pedr, sydd wedi'i lleoli uwchlaw’r dref yn ei mynwent ei hun. Mae mynediad iddi o'r Stryd Fawr. Fe’i hadeiladwyd ym 1858-60 mewn arddull Gothig addurniadol iawn o ganol y bedwaredd ganrif ar ddeg, ac mae'n waith i’r pensaer o Abertawe J.H. Baylis. Fe'i hariannwyd gan feistr haearn a tunplat lleol, William Parsons (1795-1864). Fe'i gelwir yn aml yn Gadeirlan y Cwm, ac mae'n dominyddu Pontardawe gyda'i meindwr a’i thwr 60m o uchder. Mae'r eglwys restredig Gradd II hon ym Mhlwyf Llangiwg (Pontardawe), yn Esgobaeth yr Eglwys yng Nghymru Abertawe ac Aberhonddu. Mae'r eglwys yn cynnal gwasanaethau Sul wythnosol ac mae ei Gwyl Flodau flynyddol ym mis Awst yn uchafbwynt ar galendr y dref.
Cyfeirnod Grid y Safle Treftadaeth: SN7226804133
Yn y gwaith celf, mae'r eglwys yn eistedd uwchlaw Camlas Abertawe sy'n rhedeg trwy ganol Pontardawe. Adeiladwyd y gamlas ddiwydiannol hon i wasanaethu diwydiannau Cwm Tawe – glofeydd, gweithfeydd haearn a gweithfeydd copr. Agorwyd rhan gyntaf y gamlas, o Abertawe i Odre'r Graig, yn 1796, a chwblhawyd y darn cyfan o 16.5 milltir (26.6 km) erbyn mis Hydref 1798. Adeiladwyd 36 loc a phum traphont ddwr i gario'r gamlas ar draws llednentydd mawr yr Afon Tawe, yng Nghlydach, Pontardawe, Ynysmeudwy, Ystalyfera, a Chwmgïedd. Yn sgil agor y gamlas, gwelwyd cynnydd mewn gweithgarwch diwydiannol ar hyd y Cwm, a sefydlodd nifer o gwmnïau gweithgynhyrchu weithfeydd ar hyd ei glannau. Cofnodwyd y gweithgarwch masnachol diwethaf ar y gamlas yn 1931 ac yna cafodd sawl rhan eu llenwi i mewn erbyn dechrau'r 1970au. Er y gellir teithio ar hyd pum milltir o Gamlas Abertawe yn unig erbyn hyn – o Glydach i Bontardawe ac o Bontardawe i Ynysmeudwy - heddiw mae'n llwybr cerdded a beicio gwyrdd a dymunol, ac mae caiacwyr a phadlfyrddwyr yn hwylio’r dyfroedd ochr yn ochr â'r bywyd gwyllt amrywiol sydd wedi ymgartrefi yn y dyfroedd ac o’u cwmpas. Gellir dod o hyd i lawer o safleoedd treftadaeth allweddol hefyd ar hyd y llwybr.
Mae Cymdeithas Camlas Abertawe, sef grwp gwirfoddol a ffurfiwyd ym 1981, yn cwrdd yn wythnosol i adfer rhannau o'r gamlas ac yn parhau i reoli’r amgylchedd a’i wella. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Gymdeithas: www.swanseacanalsociety.com
Cyfeirnod Grid y Safle Treftadaeth: SS698016