What3words ar gyfer lleoliad y fainc: enveloped.jammy.communal
Mae'r fainc ar Heol Ynysmeudwy (B4603), wrth droed y grisiau o Ffordd Bethesda a gyferbyn â'r Ynysmeudwy Arms, yn darlunio Pont Ynys Meudwy-Ganol, un o'r pontydd bwa cerrig gwreiddiol gorau sydd wedi goroesi ar Gamlas Abertawe. Fe’i hadeiladwyd yn y cyfnod 1794-98, ac i gynlluniau Charles Roberts a Thomas Sheasby Senior, ac mae'r bont hon o dywodfaen Pennant mewn haenau llorweddol, yn croesi’r gamlas yn lletraws. Yn ddiweddarach, daethpwyd i gyfeirio at y bont hefyd fel Pont Niclas ar ôl y morwr Capten Nicholas a oedd yn berchen ar Fferm Ynysmeudwy Ganol o'r 1890au. Mae'r bont yn bont Gradd II restredig.