What3words ar gyfer lleoliad y bocs: oval.reinvest.narrating
Yn aml, cyfeirir at Gapel Gellionnen, addoldy Undodaidd rhestredig Gradd II a adeiladwyd ym 1692, fel 'Capel Gwyn' ac mae wedi'i leoli ar fynydd Gellionnen yn edrych allan dros Gwm Tawe ac i lawr tuag at ddinas Abertawe a'r Mwmbwls. Mae'r capel ar groesffordd lle mae pedair ffordd yn cydgyfarfod, gan arwain o Abertawe i Aberhonddu, ac o Rydaman i Gastell-nedd. Dan arweiniad y Parchedig Josiah Rees, a gyda chefnogaeth y bardd a'r holl-ddysgedig Iolo Morganwg, cafodd y Capel, a adeiladwyd yn wreiddiol gan anghydffurfwyr Protestannaidd, ei droi'n Undodaidd, ac, yn 1802, sefydlwyd Cymdeithas Undodaidd Cymru yn ystod cyfarfod yng Nghapel Gellionnen. Mae'r capel yn parhau i wasanaethu cynulleidfa wythnosol fawr ar ddydd Sul ac yn cynnal digwyddiadau addoli a chymdeithasol cynhwysol yn rheolaidd trwy gydol y flwyddyn. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Capel www.gellionnen.org
Cyfeirnod
Grid y Safle Treftadaeth: SN7007004150
Ym mlaendir y ddelwedd hon mae Carn Llechart, sef carnedd gylch neu gylch cerrig. Cylch Neolithig hwyr neu Oes Efydd gynnar o tua 25 carreg isel gyda chist gladdu yn ei ganol. Mae Carn Llechart yn gylch trawiadol gan fod ei ymylfeini wedi eu trefnu ar ongl allanol i greu effaith 'coron ddrain'. Ar ben y gist byddai llechfaen fawr, ond aeth hon ar goll. Ar ben y gist ei hun byddai carnedd fawr, neu domen o ddaear. Serch hynny, nid yw pob arbenigwr yn cytuno y byddai tomen o ddaear wedi bod yno.
Gallwch fynd at Garn Llechart oddi ar Heol y Baran, 1 filltir i'r gogledd-orllewin o bentref Rhyd-y-Fro.
Cyfeirnod Grid y Safle Treftadaeth: SN6973006270