Celf Stryd Pontardawe Street Art

Yn 2023, sicrhaodd Cyngor Tref Pontardawe grant gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, trwy Gyngor Sir Castell-nedd Port Talbot, i gyflawni prosiect treftadaeth celf stryd ar gyfer y dref. Nod y prosiect oedd tynnu sylw at dreftadaeth a harddwch ardal tref Pontardawe, a’u dathlu.

Cynhaliodd Cynghorwyr Tref Pontardawe weithdai gyda disgyblion o dair ysgol gynradd leol – Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe, Ysgol Gynradd Llangiwg ac Ysgol Gynradd Gymraeg Trebannws. Fe wnaethant hefyd drefnu sesiynau galw-heibio i drigolion yn nwy o ganolfannau cymunedol y dref, sef Canolfan Treftadaeth Pontardawe a Chanolfan Gymraeg Ty'r Gwrhyd, yn ogystal â gofyn am farn aelodau Cymdeithas Hanes Cwm Tawe. Roedd y trafodaethau yn y gweithdai hyn yn ceisio nodi tirnodau, unigolion, ac agweddau eraill allweddol ar dreftadaeth yr ardal, a adlewyrchai ddiwylliant ac etifeddiaeth Pontardawe ac a dynnai sylw atynt. Ar sail y trafodaethau hyn, rhoddwyd briff a oedd yn amlinellu'r tirnodau treftadaeth mwyaf poblogaidd a nodwyd, i Fresh Creative Co, er mwyn llunio dyluniadau. Yna, ym mis Ionawr 2024, dechreuwyd ar y gwaith o beintio'r bocsys a'r meinciau. Ers hynny, mae wyth cabinet Openreach a thair mainc wedi cael eu peintio gyda gwaith celf gwreiddiol trawiadol.

Gobeithiwn y bydd y celf stryd yn dod ag ychydig o liw ac egni i'r ardal, y byddant yn destun trafod ac y bydd trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd yn eu mwynhau.

Er mwyn rhoi rhagor o wybodaeth am y tirnodau hyn i ymwelwyr a thrigolion, fel ei gilydd, dyma rai nodiadau byr sydd wedi cael eu paratoi, ac rydym yn ddiolchgar i aelodau Cymdeithas Hanes Cwm Tawe am sicrhau eu bod yn gywir.