What3words ar gyfer lleoliad y bocs: swanky.makeovers.soak
Roedd William Parsons (1795-1864) a'i frawd, John, yn berchen ar waith tunplat yn Ynysderw, Pontardawe a Pheasant Bush, Trebannws yn ystod y 1830au a'r 1840au. Ym 1861, gwerthodd William Parsons Waith Tunplat a Gefail Primrose i William Gilbertson, a datblygodd ei fab, Arthur, y busnes i fod yn fusnes mawr erbyn y Rhyfel Byd Cyntaf gyda dur yn dod i’r amlwg yn yr 1880au. Enillodd y cwmni enw da am ragoriaeth o ran ansawdd, a chafodd y contract i ddarparu haenau ar gyfer to y Ty Gwyn yn Washington DC. Yn y pen draw, cymerodd Richard Thomas and Co yr awenau ym 1933 ac yna Richard Thomas and Baldwins Ltd, cyn iddynt gau ym 1962.
Ar ei anterth, y gwaith dur a thunplat oedd anadl einioes y dref, a chynhaliodd deuluoedd a chymunedau am genedlaethau. Erbyn hyn, safle'r hen weithfeydd yw lleoliad Ysgol Gymunedol Cwmtawe, Canolfan Hamdden Pontardawe, caeau chwarae Ynysderw, a sawl siop adwerthu. Yr unig adeilad sy'n weddill sy'n gysylltiedig â'r gwaith tunplat yw Ty Mawr ar Heol Ynysderw, sy'n cael ei ddatblygu fel fflatiau i’w rhentu’n gymdeithasol.
Mae'r gwaith celf yn darlunio nenlinell ddiwydiannol o simneiau a mwg ar lawr y Cwm, ac mae’n cynnwys y pennill olaf o gerdd gan y bardd o Bontardawe, David James Jones, sy'n fwy adnabyddus fel Gwenallt. Mae'r gerdd Y Meirwon yn myfyrio ar effaith y chwyldro diwydiannol a chyfalafiaeth ar gymunedau Cymru a cholli’r gymdeithas wledig, gydweithredol lle na wahaniaethwyd rhwng dynion ar sail cyflog neu statws.
"Diflannodd yr Wtopia oddi ar gopa Gellionnen,
Y ddynoliaeth haniaethol, y byd diddosbarth a di-ffin;
Ac nid oes a erys heddiw ar waelod y cof
Ond teulu a chymdogaeth, aberth a dioddefaint dyn."
Cafodd tad Gwenallt, Thomas Ehedydd Jones, brodor o Rydcymerau yn Sir Gaerfyrddin a ddaeth i Bontardawe i chwilio am waith yn y De diwydiannol, ei ladd yn erchyll yn y gweithfeydd tunplat yn 1927. Roedd wedi bod yn rhedeg metel tawdd allan o lêdl i fowldiau, pan fflachiodd y metel yn ddirybudd, gan boeri metel chwilboeth dros ei ben a’i gorff.
Bardd lleol arall a oedd yn uchel ei barch ac a dalodd deyrnged i'r gweithiau tunplat wrth iddynt ddechrau diflannu, oedd Abiah Roderick, Clydach (1898–1978):
Yr Hen Waith Tun
Fe ddaw hiraeth wrth fatel a'r hen le,
A'r atgofion yn fil erbyn hyn,
Ond codi fy mhac fydd ore, Dai Bach.
Da'th diwedd i'r hen waith tun.