Cwmdu

Mae Cyngor Tref Pontardawe a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn gydberchnogion ar Warchodfa Natur Cwmdu ym Mhontardawe. Ceir yma sawl taith gerdded â golygfeydd hardd, ynghyd ag ardaloedd picnic a mannau eistedd yn agos at yr afon ac o fewn Ystâd Glanrhyd.

Gallwch gyrraedd Cwmdu o’r Groes ym Mhontardawe, o’r grisiau ar Stryd Iago, o Waun Sterw, Rhyd y Fro neu’r Uplands.

Mae’r ardal bicnic sy’n eiddo i Gyngor Tref Pontardawe wedi ei lleoli ger traeth bychan o gerrig crynion ar lan yr afon, ar y llwybr o’r Bont Werdd tuag at Ryd y Fro.

Rhaeadr

Afon

Mainc werdd yn y coed