Mae cymuned Pontardawe, sy'n cynnwys wardiau etholiadol Pontardawe, Rhyd y Fro a Threbannws, yn cael ei gwasanaethu gan Gyngor Tref etholedig sy'n cynnwys 16 o Aelodau, ac mae'n ffurfio rhan o fwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot.
Mae'r Cyngor yn cyfarfod unwaith y mis, ar yr ail ddydd Llun am 6.45pm, ac eithrio ym mis Awst pan nad oes cyfarfod, ac mae'n gyfrifol am nifer o Neuaddau Cymunedol, Parciau, Llwybrau Troed a rhan o Warchodfa Natur Cwmdu. Mae'r Cyngor hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Grwpiau Cymunedol, sefydliadau trydydd sector a'r Awdurdod Unedol i ddarparu gwyliau a manteision eraill ar gyfer y Gymuned.