What3words ar gyfer lleoliad y bocs: singled.crops.straying
Mae'r gwaith celf hwn yn talu teyrnged i'r gwaith crochenwaith byd-enwog a sefydlwyd yn Ynysmeudwy ar lannau Camlas Abertawe. Cynhyrchodd lestri ar gyfer y cartref a serameg bensaernïol o tua 1845 hyd 1877. Diolch i’w leoliad wrth ochr Camlas Abertawe, gallai gludo'r deunydd crai yn hawdd i gynhyrchu crochenwaith clai Tsieina Cernywaidd (Kaolin).
Cafodd y gwaith ei sefydlu a'i adeiladu gan ddau frawd o Gernyw, William a Michael Williams, a brynodd safle gwreiddiol fferm Ynysmeudwy, ble mae tafarn yr Ynysmeudwy Arms erbyn hyn. Yr enw arno mewn tafodiaith leol yw "Y Smitw".
Cyflogai’r brodyr Williams tua 30 o bobl, rhwng 14 a 40 oed, ac roedd sawl un yn hanu o Gernyw. Cynhyrchai’r gwaith friciau, teils to, jygiau a phibellau pridd, a photiau simnai. Y teulu Williams a reolai’r gwaith tan 1861, pan gafodd ei brynu gan yr entrepreneuriaid lleol Lewis a Morgan a oedd hefyd yn berchen ar Lofa Primrose yn Alltwen. Prynwyd y gwaith gan Grochendy Llanelli yn 1871 cyn iddo roi'r gorau i gynhyrchu yn 1877. Ar ei anterth, roedd Ynysmeudwy yn cynhyrchu 20,000 o eitemau o gynnyrch priddlestri yr wythnos. Dymchwelwyd y rhan fwyaf o'r ffatri grochenwaith i wneud lle i waith tun y Bryn. Ychydig sy'n weddill o'r safle gwreiddiol ond yr enw a ddefnyddir ar gyfer un o'r pontydd ar y gamlas, Trosbont Ynysmeudwy Uchaf, yw ‘Pottery Bridge’.
Mae'r gwaith celf ar y cabinet yn darlunio naddiadau ffenestr terra cotta Ysgoldy Eglwys San Pedr, a adeiladwyd ym 1856 ac sydd yn union gyferbyn â’r cabinet. Cloddiwyd clai terra cotta o Fynydd Marchywel yng Nghilybebyll, y mynydd gyferbyn â phentref Ynysmeudwy, cyn ei siapio a'i danio yn odynau crochenwaith Ynysmeudwy. Y ffenestri yw'r enghraifft fwyaf sydd wedi goroesi o gynhyrchion a wnaed gan y gwaith hwnnw. Mae'r gwaith celf ar y cabinet hefyd yn darlunio enghreifftiau o jygiau crochenwaith Ynysmeudwy wedi'u gosod y tu mewn i'r ffenestr.
Cyfeirnod map: SS 741 057