Cronfa
Mantais Gymunedol Mynydd y Betws
Mae’n dda gennym gadarnhau ein bod wedi cael grant gan Fferm Wynt Gymunedol Mynydd y Betws, i ailwampio’r ardd fechan ar gyffordd Stryd Herbert a Stryd Holly ym Mhontardawe. Roedd yr ardal wedi gordyfu ac angen rhywfaint o sylw a gwaith twtio arni. Er mwyn sicrhau bod ein dathliadau ychydig yn fwy cynaliadwy, byddwn yn cynnwys pinwydden aeddfed a fydd yn gallu cael ei haddurno â goleuadau Nadolig bob blwyddyn ar gyfer Gwyl y Gaeaf..... Hefyd, i’r rheiny sydd wrth eu boddau â’n blodyn cenedlaethol ...........mwy o Gennin Pedr - Grant wedi'i gwblhau rhagfyr 2024
Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU
Mae'r gwaith o osod system ‘teledu cylch cyfyng’ newydd sy’n gweithredu ar lefel uchel, yng nghanol tref Pontardawe, dan arweiniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot mewn partneriaeth â Chyngor Tref Pontardawe, gyda chyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, bellach wedi'i gwblhau'n llwyddiannus.
Nod y gwaith uwchraddio hwn yw gwella diogelwch trigolion ac ymwelwyr yn sylweddol. Mae'r camerâu newydd wedi'u hintegreiddio i ystafell reoli teledu cylch cyfyng fodern y Cyngor, sydd ar waith 24/7, ac sy’n cydweithio'n agos â'r gwasanaethau brys gan gynnwys timau heddlu, tân ac ambiwlans.
Prif fanteision y systemau teledu cylch cyfyng yw:
• Atal fandaliaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol: lleihau digwyddiadau trwy fonitro cyson.
• Rhoi cymorth i'r heddlu: darparu ffilmiau o ansawdd uchel ar gyfer tystiolaeth.
• Cost-effeithlonrwydd: gostyngiad posibl mewn costau diogelwch a phremiymau yswiriant.
• Diogelwch gwell: hwb i ddiogelwch cyffredinol canol y dref a chanfyddiad y cyhoedd.
• Ymateb wedi'i dargedu gan yr heddlu: ymatebion cyflymach a mwy effeithiol i ddigwyddiadau.
• Cymorth i fusnesau: sicrwydd i fusnesau sy'n delio â dwyn o siopau a materion eraill.
Trwy fwrw’r rhwyd yn fwy eang, gall y Cyngor, Heddlu De Cymru, a gwasanaethau brys eraill, ymateb yn gyflymach ac yn fwy effeithiol i achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae'r dechnoleg ddiweddaraf yn y camerâu hyn yn gymorth i atal troseddau a hefyd yn helpu i leihau costau diogelwch ac yn darparu ffilmiau clir, o ansawdd uchel, fel tystiolaeth ar gyfer y llys - Cwblhawyd y prosiect ym mis Ionawr 2025
Grant Bioamrywiaeth Cyngor Castell-nedd Port Talbot
Roedd Cyngor y Dref, ynghyd â Gwirfoddolwyr Cadwraeth Pontardawe, wrth eu bodd i gael grant bioamrywiaeth gan Bartneriaeth Natur Leol Cyngor Castell-nedd Port Talbot, i wella bioamrywiaeth ar Gomin Gellionen ac yng Nghwmdu.
Gweithiodd contractwyr arbenigol am dros ddeufis i daclo dros 1.5 cilomedr sgwâr o rododendronau ymledol yng Nghomin Gellionen. Mae'r rhywogaeth ymledol yn achosi niwed i ecosystemau brodorol, trwy ddadleoli planhigion ac anifeiliaid eraill, oherwydd eu tyfiant trwchus, eu gwenwyndra, a'u gallu i ledaenu'n gyflym. Dros yr ychydig fisoedd nesaf dylai'r canopi trwchus leihau, gan ganiatáu i rywogaethau brodorol ail-gytrefu’r ardal. Bydd hyn yn ei dro yn annog bywyd gwyllt lleol i fyw yma.
Rydym yn gobeithio y bydd y gwaith hwn, a'r gwaith hwn yn y dyfodol ar Gomin Gellionen, hefyd yn annog y gymuned gyda gweithgareddau awyr agored iach fel cerdded a heicio yn yr ardal honno.
Gwelwyd bioamrywiaeth yng Nghwmdu yn gwella hefyd. Gosodwyd blychau adar newydd, gan gynnwys blychau arbenigol ar gyfer trochwyr a sigldinau. Gosodwyd blychau ystlumod hefyd, ac mae diwrnodau gwirfoddolwyr yn cael eu trefnu i arolygu'r cytrefi ystlumod yn yr ardal.
Aeth gwirfoddolwyr Cadwraeth Pontardawe ar gyrsiau hyfforddi am ganfod ystlumod, a chawsant synhwyrydd a chofnodydd ystlumod i’w galluogi i gynnal yr arolygon. Mae teithiau cerdded ystlumod gan ddefnyddio'r synwyryddion, wedi'u cynllunio yng Nghwmdu dros yr haf, a bydd cyfle i chi ddysgu mwy am y creaduriaid diddorol hyn. Mae gwirfoddolwyr Cadwraeth Pontardawe hefyd yn cynllunio arolygon gwyfynod a sesiynau gwybodaeth yng Nghwmdu - Cwblhawyd y prosiect ym mis Ebrill 2025