Catasauqua

Yn gynnar yn 2024, cafwyd cyswllt rhwng Canolfan Treftadaeth Pontardawe a Chymdeithas Hanes Catasauqua, Pennsylvania, er mwyn cydweithio i greu arddangosfa am David Thomas. Mae David Thomas yn adnabyddus fel Tad Diwydiant Haearn Glo Carreg America, a Catasauqua oedd y dref lle adeiladodd ei waith haearn cyntaf. Yn ei dro, sbardunodd hyn chwyldro diwydiannol America.


Nodwyd ar y pryd fod y ddwy dref, sef Pontardawe a Catasauqua, yn debyg o ran maint ac wedi datblygu mewn ffordd debyg iawn, o amaethyddiaeth i ddiwydiant, ac ymhellach, i ddatblygiad ôl-ddiwydiannol. Roedden ganddyn nhw hefyd lawer o ddatblygiadau seilwaith cyffredin fel camlas a safleoedd diwydiannol wedi'u hailddatblygu.

Daeth rhanddeiliaid allweddol yn Catasauqua i ddangos diddordeb mawr mewn cydweithio ar fwy o brosiectau diwylliannol a fyddai’n pontio ar draws Môr Iwerydd, a dechreuodd sgyrsiau am gytundeb cyfeillgarwch posibl rhwng ein dwy dref.

Daeth Cymdeithas Hanes, Canolfan Treftadaeth a Siambr Fasnach Pontardawe i gyswllt â chynrychiolwyr tref Catasauqua, i archwilio'r tebygrwydd rhwng Catasauqua a Phontardawe.

Yna cysylltodd Cyngor Tref, cymdeithas Stryd Fawr a Chymdeithas Hanes Catasauqua â'u cymheiriaid lleol er mwyn llunio cytundeb cyfeillgarwch rhwng ein trefi.

Mae cytundeb cyfeillgarwch yn helpu i feithrin cydberthnasau rhyngwladol trwy ganolbwyntio ar weithgareddau a chyfnewidiadau sy'n hyrwyddo cysylltiadau cymdeithasol, diwylliannol, chwaraeon ac addysgol.

Mae'n bleser gennym gadarnhau bod y cytundeb cyfeillgarwch wedi'i lofnodi yn gynnar yn 2025 gan gynrychiolydd o Gymdeithas Hanes Pontardawe, Siambr Fasnach Pontardawe a Chlerc Cyngor Tref Pontardawe.

Eisoes mae gan glybiau Rotari lleol y ddwy wlad ddiddordeb mewn creu cysylltiadau, ac mae gan un o'n hysgolion lleol ddiddordeb mewn partneru ag Ysgol Uwchradd Catasauqua i weithio ar brosiect diwylliannol a threftadaeth ar y cyd.

Rydym yn siwr y bydd mwy o gydweithio cyffrous rhwng Ponty a Catty yn y dyfodol.