Mae Pontardawe yn dref wledig 7 milltir i'r gogledd o Abertawe a 4 milltir o draffordd yr M4 gyda heolydd cyswllt da. Mae'n ganolfan ddelfrydol i bobl sydd eisiau ymweld a Chastell Nedd, Abertawe,Bro Gwyr, Llanelli, Caerfyrddin a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar gyfer pleser neu waith. Nid oes un o'r lleoedd yma fwy na 45 munud i ffwrdd.
Gorsaf dren - Abertawe neu Gastell Nedd : Cymerwch un o'r bysiau lleol o'r gorsafoedd. Ceir Cysylltiadau aml i Bontardawe. Fodd bynnag gellir chwiloto am y cyfoeth o hanes diwydiannol ym Mhontardawe, yn ogystal ag ymweld a'n coedwigoedd hynafol, neu droedio ar lan y camlesi llonydd.
Os yw'ch diddordeb ym myd y campau, mae gennym Ganolfan Hamdden a chyfleusterau gwych a phwll nofio o safon . Yn wir ,mae yma rhywbeth at ddant pawb! Ar garreg y drws ceir Cwrs Golff gwych (18 twll).
Deddf Cyrff Cyhoeddus (Mynediad i Gyfarfodydd) Adran 1(4) a Deddf 1972, Trefnlen 12, Paragraff 26(2)(a) y Llywodraeth Leol
Yn unol â gofynion y ddarpariaeth statudol uchod, trwy hyn rhoddir rhybudd y cynhelir cyfarfod ac Cyngor Tref Pontardawe ar ddydd Llun 13/11/23 am 6.45yh . Os yw Aelodau o’r Cyhoedd yn dymuno codi mater, dylent e-bostio’r Clerc. (E-bost town.clerk@pontardawetowncouncil.gov.wales). Cyhoeddir copi drafft o gofnodion y cyfarfod ar wefan Cyngor y Dref cyn gynted â phosibl ar ôl y cyfarfod.
Hysbysaid am Gwblhau Archwilaid i 31.3.23