Parciau ac Ardaloedd Chwarae

Mae Cyngor Tref Pontardawe yn berchen ar ac yn rheoli tri pharc. Mae gan y tri Pharc gyfarpar sy'n addas ar gyfer plant o bob oedran - o blant bach i bobl ifanc yn eu harddegau. Rydym hefyd yn rheoli ardal ‘cicio pêl' yn Nhrebannws yn Heol y Llwynau.

Parc Ynysmeudwy

Old Road, Ynysmeudwy, Pontardawe
Mae'r Parc wedi'i leoli ger y Neuadd Gymunedol ac mae'n cynnwys tair rhan. Mae yna ddarnau amrywiol o gyfarpar chwarae i blant o bob oedran ac Ardal Gemau Aml-ddefnydd fach. Mae'r Parc hefyd yn cael ei reoli'n amgylcheddol drwy blannu coed, blodau gwyllt ynghyd â darpariaeth o flychau adar a gwenyn. Mae yna hefyd grwp 'Cyfeillion' y gellir cysylltu â nhw trwy Facebook.

Ffrâm a sleid ddringo Parc Ynysmeudwy

Llys Ardal Gemau Aml-ddefnydd


Parc Chwarae Teg

Gellideg Road, Pontardawe
Mae'r Parc wedi'i leoli oddi ar faes parcio bach rhwng y tai yn Ffordd Gellideg. Mae yna ddarnau amrywiol o gyfarpar chwarae i blant o bob oedran ac Ardal Gemau Aml-ddefnydd fach.

Swing Basged

Set Sleidiau

cwrt tennis

Parc Trebannws

'The Green', oddi ar Ffordd Abertawe, Pontardawe.
Mae'r parc wedi'i leoli oddi ar 'The Green' ac yn gyfagos i Faes Rygbi Trebannws. Mae yna ddarnau amrywiol o offer chwarae i blant o bob oedran, cysgodfan i bobl ifanc yn eu harddegau a maen ddringo.

Trebanos Seesaw a Swing

Parc Plant Bach Trebanos