What3words ar gyfer lleoliad y fainc: foot.sunset.tunnel
Mae'r fainc ar Heol y Ffin, Trebannws yn darlunio Rhaeadr hardd Dyffryn Cwm Du ar rannau uchaf yr Afon Clydach. Trysor cudd Cwm Tawe yw'r rhaeadr a gellir ei chyrraedd ar hyd llwybr troed cyhoeddus sy'n cychwyn o’r 'Groes' yng nghanol tref Pontardawe, gyferbyn â'r Dillwyn Arms. Gallwch ddilyn taith gylch trwy hen Ystâd Glanrhyd a fydd yn cymryd llai nag awr ar gyflymder hamddenol. Mae grisiau ar hyd y llwybr. Mae planhigfa Glanrhyd yn gartref i nifer o goed sbesimen, gan gynnwys Cochwydd Arfordirol Enfawr (Sequoia sempervirens) a blannwyd gan deulu’r Gilbertson a oedd yn berchen ar yr Ystâd a hen waith tun y dref. Mae olion yr hen ystâd i'w gweld hefyd, gan gynnwys pwll natur, adfeilion pwll nofio awyr agored a gardd furiog.