What3words ar gyfer lleoliad y bocs: doghouse.reading.drags
Mae Eglwys Sant Ciwg yn Llangiwg yn eglwys ganoloesol anghysbell a darluniadol wedi'i lleoli 700 troedfedd uwchben lefel y môr ar fryn Y Barli yn nhref Pontardawe. Enwyd yr eglwys ar ôl Ciwg ab Arawn (a elwir hefyd yn Ciwg y Cyffeswr), sef sant o'r 6ed ganrif a gyflwynodd Gristnogaeth i'r ardal rhwng 542 a 568 OC. Roedd yn gyrchfan i bererindodau yn y cyfnod canoloesol hwyr. Ailadeiladwyd yr eglwys sydd ar y safle heddiw yn sylweddol yn 1812, ond mae olion yr eglwys Normanaidd ar y safle o hyd, gan gynnwys y twr. Yn 2004, cyhoeddwyd na fyddai’r adeilad rhestredig Gradd II hwn yn cael ei ddefnyddio mwyach, ac mae bellach yn ganolfan gymunedol dan ofal Ymddiriedolaeth Llangiwg.
Yn yr ardal hefyd, mae brigiad creigiog, uwchben Coed Alltacham ac ychydig islaw 16eg twll Cwrs Golff Pontardawe, sy'n cynnig golygfeydd anhygoel dros Gwm Tawe. Mae rhai’n cyfeirio at y brigiad hwn fel Elephant Rock, ond i eraill, mae’r graig sy'n hawlio’r enw hwnnw yn un arall gerllaw sydd â delwedd o eliffant wedi’i cherfio arni. Mae'r graig hon wedi'i lleoli uwchben Cartref Gofal Preswyl Dan y Bryn, sef hen Wyrcws Pontardawe. Mae yna gerfiad o eglwys anhysbys, y credir ei bod yn eglwys leol, ar graig gyfagos hefyd.
Yn 2021, gwnaeth yr hanesydd lleol enwog, Clive Reed, y datganiad canlynol am y cerfiad eliffant ar gyfer Cymdeithas Hanes Cwm Tawe:
"Dywedodd Tom Williams o Bontardawe, un o sylfaenwyr Cymdeithas Hanes Cwm Tawe tua 1976, wrtha i ddechrau'r 1980au, fod syrcas wedi dod i Bontardawe ychydig wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf a bod eliffant yn un o'r actau. Chwarelwr a oedd wedi gweld yr eliffant a gerfiodd yr anifail anarferol hwnnw yr oedd wedi ei weld. Tynnais lun o'r graig yn 1986 ac roedd amlinelliad yr eliffant lawer yn well a nodweddion eraill i'w gweld hefyd. Pan es i weld y graig unwaith eto yn 2012, roedd llawer o'r graig wedi hindreulio, a rhai o'r nodweddion wedi diflannu. Dim ond 78 modfedd o hyd yw'r graig a 33 modfedd o uchder ar ei phwynt uchaf, ac mae’r eliffant yn y gornel dde ar y gwaelod. Dim ond 12 modfedd o hyd ac 11 modfedd o uchder yw'r eliffant dan sylw. Yn yr 1980au roedd delwedd o ddyn i'w gweld o flaen yr eliffant. Dim ond tua chwe modfedd o uchder oedd y e’. Hyfforddwr eliffant neu’r ‘mahout’ fyddai hwnnw wedi bod. Roedd y dyddiad 1925 i'w weld uwchben yr eliffant yn 1986..."