Lewis y Pop

What3words ar gyfer lleoliad y fainc: scarred.reader.immediate

Mae'r gwaith celf ar y fainc wrth y gyffordd rhwng Grove Road a Brecon Road yn talu teyrnged i hanes diodydd meddal y dref. Roedd Lewis Brothers Ltd, a elwir yn lleol yn Lewis y Pop, yn "gynhyrchwyr dwr mwynol" ar ochr chwith Grove Road, ychydig ar ôl cyffordd George Street. Roeddent yn arbenigo mewn diodydd meddal a di-alcohol, gan gynnwys 'Avona' – ‘exquisite non-alcoholic beverage manufactured only by Lewis Bros of Pontardawe’ y mae ei belydrau’n cyrraedd bobman, yn ôl ei label. Diodydd eraill a werthwyd, mewn poteli gwydr neu lestri crochenwaith caled, oedd diodydd pefriog Grapefruitade, Ginger Beer, Portello, Keeko ac Orange Crush.

Lewis the Pop