What3words ar gyfer lleoliad y bocs: catapult.twigs.graph
Mae gan Bontardawe draddodiad hir o ragoriaeth ym maes chwaraeon a chaiff y dref ei chynrychioli'n dda ar lefel genedlaethol mewn sawl camp. Serch hynny, cafodd un gamp ei henwi gan yr hen a'r ifainc yn ystod ein trafodaethau â’r gymuned, wrth geisio nodi pa agweddau ar ein treftadaeth i’w hadlewyrchu yn ein gwaith celf, a rygbi oedd honno.
Cafodd un unigolyn, sef Justin Tipuric, ei enwi dro ar ôl tro ar y pryd, fel arwr i'r gymuned, i raddau helaeth oherwydd ei ymgyrch drawiadol fel capten Cymru yng nghyfres yr Hydref 2022. Ganed Tipuric yn Yr Alltwen a chwaraeodd rygbi pan yn ifanc i glwb rygbi Trebannws. Mae bellach yn chwarae i'r Gweilch. Ar ôl ennill 93 o gapiau dros Gymru a chael ei ddewis ar gyfer tri o deithiau Llewod Prydain ac Iwerddon yn olynol, ymddeolodd Tips o'r llwyfan rhyngwladol yn 2023. Mae'r ddelwedd ar y cabinet yn adlewyrchu traed chwim y blaenasgellwr a'i gap sgrym glas nodweddiadol, sy'n cyd-fynd â lliwiau traddodiadol Clwb Rygbi Trebannws. Y tu ôl iddo, mewn ymdrech i dalu teyrnged i ffotograff a dynnwyd yn 2022 o gefnogwyr ifanc Trebannws yn gwisgo capiau sgrym glas yn Stadiwm Principality, mae torf ecstatig, uchel eu croch.