Croeso i Wefan Cyngor Tref Pontardawe

Mae Pontardawe yn dref wledig 7 milltir i'r gogledd o Abertawe a 4 milltir o draffordd yr M4 gyda heolydd cyswllt da. Mae'n ganolfan ddelfrydol i bobl sydd eisiau ymweld a Chastell Nedd, Abertawe,Bro Gwyr, Llanelli, Caerfyrddin a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar gyfer pleser neu waith. Nid oes un o'r lleoedd yma fwy na 45 munud i ffwrdd.

Gorsaf dren - Abertawe neu Gastell Nedd : Cymerwch un o'r bysiau lleol o'r gorsafoedd. Ceir Cysylltiadau aml i Bontardawe. Fodd bynnag gellir chwiloto am y cyfoeth o hanes diwydiannol ym Mhontardawe, yn ogystal ag ymweld a'n coedwigoedd hynafol, neu droedio ar lan y camlesi llonydd.

Os yw'ch diddordeb ym myd y campau, mae gennym Ganolfan Hamdden a chyfleusterau gwych a phwll nofio o safon . Yn wir ,mae yma rhywbeth at ddant pawb! Ar garreg y drws ceir Cwrs Golff gwych (18 twll).

 Deddf Cyrff Cyhoeddus (Mynediad i Gyfarfodydd) Adran 1(4) a Deddf 1972, Trefnlen 12, Paragraff 26(2)(a) y Llywodraeth Leol

Yn unol â gofynion y ddarpariaeth statudol uchod, trwy hyn rhoddir rhybudd y cynhelir cyfarfod a Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ac Cyngor Tref Pontardawe ar ddydd Llun 13/5/24  am 6.45yh . Os yw Aelodau o’r Cyhoedd yn dymuno codi mater, dylent e-bostio’r Clerc. (E-bost town.clerk@pontardawetowncouncil.gov.wales). Cyhoeddir copi drafft o gofnodion y cyfarfod ar wefan Cyngor y Dref cyn gynted â phosibl ar ôl y cyfarfod.

Hysbysaid am Gwblhau Archwilaid i 31.3.23 


Cysylltiadau Cyflym

accounts

 Grantiau

A oes angen ychydig o arian ar eich sefydliad i helpu gyda'ch treuliau neu i gychwyn prosiect newydd? Mae'r Cyngor yn cynnig grantiau bach i'ch helpu chi i gyflawni'ch nodau.
Gweler ein Grantiau >

Neuaddau Cymunedol

Neuaddau Cymunedol 

 Mae tair neuadd yng nghymuned Pontardawe, a gellir archebu pob un ohonynt. Gallwch hefyd fynychu'r llu o ddigwyddiadau rheolaidd a gynhelir yno.
Bwciwch Neuadd >

Cyfarfodydd

Cyfarfodydd 

Mae Cyngor Tref Pontardawe yn cynnal cyfarfod bob yn ail ddydd Llun bob mis (gyda thoriad Awst) am 18:45. Cyhoeddir Agendâu a Chofnodion i'r wefan hon.
Gweler ein Cofnodion a'n Dyddiadau Cyfarfod >


Dementia Gyfeillgar